Annwyl Elin
Cydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru
Diolch i chi am eich llythyr dyddiedig 26 Ionawr ynghylch cydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru, a'r copi o'r ohebiaeth gan Mick Antoniw AC, y Cwnsler Cyffredinol.
Rydym yn croesawu'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran datblygu cyfres o weithdrefnau er mwyn cydgrynhoi cyfraith Cymru, a oedd yn argymhelliad pwysig yn adroddiad ein Pwyllgor blaenorol, Deddfu yng Nghymru.
Gan droi at y mater o godeiddio, byddai codeiddio cyfraith Cymru yn newid sylweddol, hirbarhaol yn y modd y mae cyfraith Cymru yn cael ei chyflwyno, ac felly byddai angen gwaith archwilio trylwyr i gyflawni hyn. O ystyried pwysigrwydd cyfansoddiadol y gwaith hwn, hoffem fod yn rhan ohono.
Felly, yng ngoleuni eich llythyr a'n diddordeb yn y mater hwn, cadarnhaf ein bod yn bwriadu ystyried y broses o godeiddio cyfraith Cymru yn fwy manwl, mater na roddwyd sylw iddo gan ein Pwyllgor blaenorol.
Fel cam cyntaf, ein bwriad yw cymryd tystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol ar godeiddio. Amgaeaf gopi o lythyr yr wyf wedi ei anfon ato heddiw, a byddaf yn gwneud yn siŵr y byddwch yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith wrth iddo fynd yn ei flaen.
Yn gywir
Huw Irranca-Davies
Cadeirydd